RHAGARWEINIAD

 

1.         Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynrychioli'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, ac mae’r 3 awdurdod parc cenedlaethol a’r tri awdurdod tân ac achub yn aelodau cyswllt. 

2.         Mae CLlLC yn sefydliad trawsbleidiol a arweinir yn wleidyddol, gydag arweinwyr pob awdurdod lleol yn penderfynu ar bolisi drwy’r Bwrdd Gweithredol a Chyngor CLlLC yn ehangach. Mae CLlLC hefyd yn penodi uwch aelodau fel Llefarwyr a Dirprwy Lefarwyr i ddarparu arweinyddiaeth genedlaethol ar faterion polisi ar ran llywodraeth leol.

3.         Mae CLlLC yn gweithio’n agos gydag ymgynghorwyr proffesiynol a chymdeithasau proffesiynol o lywodraeth leol ac mae’n cael cyngor ganddynt yn aml, fodd bynnag, CLlLC yw corff cynrychioliadol llywodraeth leol ac mae’n darparu llais cyfun, gwleidyddol llywodraeth leol yng Nghymru. 

 

Pwyntiau a sylwadau cyffredinol

 

4.         Mae CLlLC yn croesawu’r cyfle i gyfrannu at yr astudiaeth yma o gynhyrchu ynni adnewyddadwy gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Yr Amgylchedd ac Isadeiledd. Rhoddir y sylwadau yn dilyn golwg fanwl dan arweiniad Llywodraeth Cymru oedd yn edrych ar rwystrau i gynyddu’r lefel o ynni adnewyddadwy sy’n cael ei greu yng Nghymru. Roedd hefyd yn ystyried sut orau i gadw cyfoeth a pherchenogaeth yng Nghymru.

5.         Mae CLlLC yn llwyr gefnogi’r ‘hierarchaeth ynni’ o ran lleihau defnydd, gwella effeithlonrwydd ynni a manteisio ar ddefnydd adnewyddadwy wrth i ni geisio symud i ffwrdd o ddibyniaeth ar danwydd ffosil. Gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, mae CLlLC yn cynnal Rhaglen Cefnogi Pontio ac Adfer sydd wedi'i ddylunio i gefnogi awdurdodau lleol (ALlau) i ddelio nid yn unig â newid hinsawdd, ond hefyd yr argyfwng natur, cyflawni twf ac adferiad gwyrdd, cynhwysol o effaith economaidd Covid a Brexit.  Mae’r gwaith ar newid hinsawdd yn cynnwys mesurau lliniaru (lleihau carbon) ac addasu (sydd ymysg pethau eraill yn cynnwys newid ymddygiad). Mae ffocws y gwaith ar y pedwar piler o Fap Llwybr Sector Cyhoeddus i fod yn Net Sero: caffael, cludiant, adeiladau a defnydd tir. Yn y pedwar maes, mae yna rôl hollbwysig i ynni adnewyddadwy.

6.         Mae problem gallu’r grid y tynnwyd sylw ato yn ystod yr olwg fanwl yn un ohonynt.  Mae CLlLC wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ALlau i gefnogi ymdrechion i symud i fflyd o gerbydau trydan.  Mae cefnogaeth ariannol wedi cael ei ddarparu i ALl i osod cyfarpar gwefru yn nepos y Cynghorau.  Mewn nifer o achosion, mae gallu’r grid wedi cael ei nodi fel problem. Yn rhai o’r achosion yma, mae ALlau yn ymchwilio i’r potensial o gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle er mwyn goresgyn hyn. Tra bod problemau gyda’r capsiti yn hysbys iawn yng nghanolbarth Cymru, mae diffygion lleol wedi cael eu nodi mewn depos mewn rhanbarthau eraill.  Mae cynigion Llywodraeth Cymru i weithio gydag Ofgem i ‘weithredu ar sail system gyfan’, ac i fynd i’r afael â materion cydysniad yn cael eu croesawu.

7.         Mae CLlLC hefyd yn cefnogi’r bwriad i elwa o fanteision cymunedol lleol o ganlyniad i’r buddsoddiadau a fydd angen digwydd dros y blynyddoedd i ddod a’r pwyslais ar arloesi sydd wedi bod mewn sector sy’n symud yn gyflym.   Mae datblygiadau o ran hydrogen gwyrdd yn ddiddorol iawn, gydag ALlau eisoes yn treialu defnyddio hydrogen mewn cerbydau mwy megis cerbydau casglu ailgylchu.  Mewn dosbarth meistr diweddar a gynhaliwyd o dan Raglen Cefnogi Pontio ac Adfer cafwyd cyflwyniad gan Gyngor Ynys Môn a Chyngor Sir Benfro am y gwaith maent yn ei wneud, gyda’r nod o fanteisio ar ffynonellau ynni adnewyddadwy (gwynt, solar a morol), gyda’r bwriad o ddefnyddio hydrogen gwyrdd ar raddfa yn y dyfodol.

Sylwadau byr am yr argymhellion

 

Argymhelliad 1 - gweledigaeth i o leiaf fodloni anghenion ynni o ddeunydd adnewyddadwy; gweithredu i leihau galw am ynni a manteisio ar fanteision lleol.

 

8.         Cefnogaeth.

 

Argymhelliad 2 - cynyddu cynlluniau ynni lleol i gynllun cenedlaethol erbyn 2024 i baru cynhyrchu ynni adnewyddadwy gyda’r galw.

 

9.         Mae dau brosiect peilot cynllun ynni ardal lleol eisoes ar waith gyda chynghorau yng Nghonwy a Chasnewydd, ac mae gwaith tebyg yn cael ei wneud yn Sir Benfro. Fe fydd hi’n bwysig dysgu o’r Cynlluniau Ynni Ardal Lleol yma a gweithio i greu’r darlun ar draws Cymru. Bydd hyn yn cefnogi’r ymdrechion a nodwyd uchod drwy ddarparu gwybodaeth i gefnogi datblygiad isadeiledd y grid. Gobeithio y bydd cyfleoedd yn cael eu nodi yn rhan o’r broses yma i uno cynhyrchiad/cyflenwad lleol gyda galw lleol drwy ddarpariaeth uniongyrchol fel rhan o ddull datganoledig i gyflenwi ynni. Wrth i dechnoleg storio wella, gall datrysiadau o’r fath fod yn fwy ymarferol, gan osgoi colli ynni sy’n gysylltiedig â throsglwyddiad pell ar draws y grid.

 

Argymhelliad 3: helpu dinasyddion i leihau galw, gwella effeithlonrwydd ynni a defnyddio ynni i gefnogi’r weledigaeth

 

10.      Ar ben eu hymdrechion mewnol eu hunain, mae gan ALlau rôl allweddol i’w chwarae yn eu cymunedau ehangach.  Er enghraifft, fel yr awdurdod cynllunio lleol, yr awdurdod cludiant a’r corff sy’n gyfrifol am wasanaethau tai a chasgliadau gwastraff ac ailgylchu, gall ALlau ddylanwadu ar ymddygiad lleol mewn sawl ffordd i gefnogi amcanion yr argymhelliad yma.

 

Argymhelliad 4: datblygu gwasanaethau cyngor a chyflenwyr/gosod maent yn ymddiried ynddynt

 

11.      Fel uchod, gall ALlau gefnogi Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ansawdd yn cael ei gynnal drwy eu rolau gwahanol yn cynnwys rheoli/archwiliadau adeiladu ac archwiliadau tai.

 

Argymhellion 5 a 6 - Grid: edrych ar opsiynau ar gyfer cysylltiadau grid hyblyg ar gyfer deunyddiau adnewyddadwy a datrysiadau storio ynni; rhoi pwysau ar Ofgem i greu Pensaer System Ynni Cymru

 

12.      Cefnogaeth (gweler sylwadau uchod).

 

Argymhellion 7 i 9 - Cydsyniad a thrwyddedu: adolygu cydsyniad i sicrhau proses amserol; adnabod meysydd adnoddau morol strategol erbyn 2023; symleiddio’r broses o ddatblygu prosiectau’r Môr Celtaidd yn cynnwys dirprwyo pwerau i Gymru.

 

13.      Mae CLlLC yn cefnogi'r mesurau hyn. Un o’r ymrwymiadau a wnaed gan ALlau ac sydd wedi'i gynnwys yn Cymru Sero Net ydi adnabod cyfleoedd i ddefnyddio tir sy’n berchen i’r ALl, gan gynnwys y potensial am gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Mae gwaith sylweddol eisoes wedi cael ei wneud gan Wasanaeth Ynni LlC, gan weithio gydag ALlau ar lefelau lleol a rhanbarthol i adnabod prosiectau posibl.   Bydd unrhyw beth y gellir ei wneud i symleiddio’r broses (yn cynnwys trwyddedau) yn cynorthwyo i symud prosiectau posibl yn eu blaen.

 

Argymhellion 10 - 13 - Cyllid: edrych ar ffyrdd o dynnu buddsoddiad ychwanegol i lawr; blaenoriaethu perchenogaeth leol a chymunedol; cefnogi datblygiad y gadwyn gyflenwi; edrych ar ddewisiadau i gefnogi drwy ardrethu annomestig a chaffael.

14.      Bydd yr holl fesurau yma’n bwysig i’w harchwilio. Mae ALlau wedi edrych ar gyfleoedd i gefnogi buddsoddiad mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy. Mae hyn wedi cynnwys opsiynau megis gwneud ymrwymiadau yn y dyfodol i brynu’r ynni a gynhyrchir o gynlluniau, i fodloni eu gofynion ynni yn y dyfodol.  Fe allai hyn ddarparu ffrwd incwm gwarantedig i helpu i ad-dalu costau buddsoddi (e.e. cafodd hyn ei ystyried mewn cysylltiad â’r cynigion gwreiddiol ar gyfer Morlyn Llanw Bae Abertawe). Bydd unrhyw bryniant o’r fath ymlaen llaw yn destun gofynion caffael serch hynny. Gall hyn osod cyfyngiadau ar allu’r ALlau i wneud ymrwymiadau i brosiect penodol.
 

Argymhellion 14-17 - Cynyddu ynni cymunedol a lleol: adnoddau ychwanegol i gefnogi’r sectorau yma ac adeiladu capasiti; sicrhau cyfraniad i Ynni Cymru gan y sector gymunedol; mynediad gwell i’r ystâd gyhoeddus ar gyfer y sector ynni cymunedol; cynhyrchu canllawiau ar gyd-berchnogaeth

 

15.      Gall cyfraniad y sector gymunedol helpu i adeiladu cefnogaeth leol a goresgyn ymwrthedd lleol i brosiectau lle mae’n bodoli. Mae gan ALlau rôl bwysig i’w chwarae wrth gefnogi’r sector cymunedol a gweithio i fanteisio ar fanteision lleol, yn unol â Chynlluniau Lles. Lle y bo’n briodol, fe ddylai yna botensial hefyd i ALlau gymryd rhan a helpu i ddylanwadu ar brosiectau ar dir nad yw’n berchen i’r ALl ar ystâd gyhoeddus, neu o berthnasedd i’w hardal.

 

Argymhellion 18-20 - Mwyhau gwerth economaidd a chymdeithasol: gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddod â buddsoddiad i borthladdoedd a mwyhau manteision y gadwyn gyflenwi; mwyhau gosod deunyddiau adnewyddadwy ar safleoedd busnes a diwydiannol

 

16.      Ers peth amser bellach, mae CLlLC wedi cefnogi’r syniad o archwilio a manteisio ar gyfleoedd i ddatblygu sy’n ymwneud â phorthladdoedd i wasanaethu diwydiant ar y môr a phrosiectau ynni carbon isel eraill. Mae gwaith ymchwil a wnaed am hyn i Lywodraeth Cymru[1], ac yna i CLlLC dros ddegawd yn ôl, yn cyfeirio at fanteision i’r gadwyn gyflenwi, cyfleoedd ar gyfer sgiliau, potensial ymchwil a datblygu a mewnfuddsoddiad. Fe nodwyd mai rhwystrau i ddatblygiad porthladdoedd oedd:

·         Isadeiledd porthladdoedd a chyfyngiadau capasiti

·         Ansicrwydd dros ba borthladdoedd fyddai’n ffocws ar gyfer buddsoddiad

·         Cyfyngiadau cynllunio a materion amgylcheddol.

 

Argymhelliad 21 - Arloesi: galw ar Ofgem i lunio rhanddirymiad rheoleiddiol Cymru i alluogi arloesedd model busnes ynni i gefnogi’r argymhellion ehangach.

 

17.      Mae CLlLC yn cefnogi’r alwad yma.

 

 

 

I GAEL RHAGOR O WYBODAETH CYSYLLTWCH Â

 

Tim Peppin

 

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Un Parêd y Gamlas

Dumballs Road

Caerdydd

CF10 5BF

 



[1] Effaith economaidd ynni carbon isel ar borthladdoedd Cymreig | GOV.CYMRU